Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
29 Ionawr 2018
SL(5)174 - Rheoliadau Deddf Traffig Ffyrdd 1988 (Rasio Moduron) (Cymru) 2018
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r cyrff llywodraethu chwaraeon modur hynny sydd wedi'u hawdurdodi i roi trwyddedau o dan adran 12B o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 at ddibenion rasio moduron ar briffyrdd cyhoeddus yng Nghymru. Gall pobl y rhoddwyd trwyddedau iddynt wedyn wneud cais i awdurdodau priffyrdd am orchmynion sy'n awdurdodi digwyddiadau rasio moduron ar ffyrdd cyhoeddus.
Deddf Wreiddiol: Deddf Traffig y Ffyrdd
Fe’u gwnaed ar: 9 Ionawr 2018
Fe’u gosodwyd ar: 12 Ionawr 2018
Yn dod i rym ar: 2 Chwefror 2018